Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Gorffennaf 2017
Amser: 09.35 - 12.43
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Rebecca Hardwicke, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Carys Rees, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Tîm clercio: |
Daniel Collier, Clerc dros dro Sian Giddins, Dirprwy Glerc Lleu Williams, Clerc |
Tystion: |
Dr Huw Pritchard, Canolfan Llywodraethiant Cymru Dr Diana Stribu, ar rhan Canolfan Llywodraethiant Cymru Naomi White, Canolfan Llywodraethiant Cymru |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Huw Pritchard, Dr Diana Stribu a Naomi White i'r cyfarfod. Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd fod y tri yn cynrychioli Canolfan Llywodraethiant Cymru y dyfarnwyd y tendr iddi i gynnal yr adolygiad ar ran y Bwrdd.
1.2 Gwahoddodd y Cadeirydd i'r ddirprwyaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am eu gwaith hyd yn hyn ac amlinellu'r camau nesaf yn yr adolygiad i nodi rhwystrau a chymhellion o ran ymgeisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2.1 Trafododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2016-17 ac, yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd i gyhoeddi'r adroddiad.
Cam gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn diwygio'r adroddiad drafft a pharatoi'r adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi.
3.1 Trafododd y Bwrdd y papur yn amlinellu sut y gallai strwythuro ei adolygiad o strwythur gyrfa a thelerau ac amodau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i lywio'r adolygiad, gan gynnwys canlyniadau'r arolwg diweddar.
3.2 Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y mater yn ei gyfarfod ym mis Hydref.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi papur cwmpasu diwygiedig i'r Bwrdd ei ystyried yn ei gyfarfod ym mis Hydref.
4.1 Nododd y Bwrdd y canlynol:
- gohebiaeth gan y Llywydd ynghylch bwriad y Comisiwn i gyflwyno deddfwriaeth i newid enw'r Cynulliad a'r newid yn sgil hynny i enw'r Bwrdd (Papur i'w nodi 1);
- adroddiad y Tasglu Digidol, 'Creu Dialog Digidol', i gynorthwyo trafodaeth y Bwrdd o'i strategaeth ymgysylltu yn y dyfodol (Papur i'w nodi 2);
- 'Adroddiad ar Senedd yr Alban' y Comisiwn ar Ddiwygio Seneddol, yn arbennig yr argymhellion ynglŷn â thaliadau i Aelodau (Papur i'w nodi 3).